Cardiff/Swansea October 2016
Do you live in Wales?
Are you 16-19?
Passionate about Visual Effects (VFX) or Animation?
Want a career in the film industry?
If so then the Ffresh Talent programme is for you.
Running from the 24th October for 6 consecutive days in either Cardiff or Swansea, Ffresh Talent is part of the BFI Film Academy, which aims to help train and inspire the next generation of British filmmakers, supporting talented and committed young people aged 16-19 to develop the commercial and cultural knowledge and skills to help make a career in film a reality.
We will be running two academies this Autumn; Ffresh Talent Cardiff will focus on Animation, and Ffresh Talent Swansea on VFX.
As a BFI Film Academy participant you will get to work with film, VFX and animation professionals and take part in a series of masterclasses and workshops; hear their top tips on how to get into and succeed in the film industry and get practice in developing your ideas and produce your own film work. You’ll also discuss films and learn more about distribution, film-festivals and programming.
Participants will achieve a Preparing to Work in Film Level 2 award on successful completion of the course, which will act as a starting point from which those with a taste for VFX or Animation can go on to attend further residential workshops and courses during half term and summer holidays.
Applications for both courses will open on the 19th August and close on the 23rd September. Application Forms will be available on the Ffresh Talent webpage and we welcome applications from young people living anywhere in Wales. This year we will be introducing a bursary scheme for the first time that can be used for travel and accommodation, this bursary will support eligible young people from Wales who are successful in applying for it, this is funded by the Welsh Broadcasting Trust and the BFI. Details of this will also be released on 19th August.
To apply head to our application form here:
Swansea VFX
Cardiff Animation
In the meantime, if you have any questions, please drop us an email BFItalent@ffresh.com
For further information on the BFI Film Academies please visit www.bfi.org.uk/filmacademy
Ar gyfer Darpar Gynhyrchwyr Ffilm Ifanc
Caerdydd/Abertawe Hydref 2016
Ydych chi'n byw yng Nghymru?
Ydych chi'n 16-19 oed?
Angerddol am Effeithiau Gweledol (VFX) neu Animeiddio?
Eisiau gyrfa yn y diwydiant ffilm?
Os ydych, dyma’r rhaglen Doniau Ffresh i chi!
Yn rhedeg o 24 Hydref am 6 diwrnod yn naill ai Gaerdydd neu Abertawe, mae Doniau Ffresh yn rhan o Academi Ffilm BFI, sy’n anelu at helpu hyfforddi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr ffilm Prydain, gan gefnogi pobl ifanc ddawnus ac ymroddedig rhwng 16 a 19 oed i ddatblygu’r wybodaeth a sgiliau masnachol a diwylliannol i helpu gwneud gyrfa mewn ffilm yn realiti.
Byddwn yn rhedeg dwy academi yr hydref hwn; bydd Doniau Ffresh Caerdydd yn ffocysu ar animeiddio, a Doniau Ffresh Abertawe ar VFX.
Trwy gymryd rhan mewn Academi Ffilm BFI byddwch yn cael cyfle i weithio gyda gweithwyr ffilm, VFX ac animeiddio proffesiynol a chymryd rhan mewn cyfres o ddosbarthiadau meistr a gweithdai; clywed eu hawgrymiadau gwych ar sut i gyrchu'r diwydiant ffilm a llwyddo ynddo a chael ymarfer wrth ddatblygu'ch syniadau a chynhyrchu'ch gwaith ffilm eich hun. Byddwch yn trafod ffilmiau ac yn dysgu mwy am ddosbarthu, gwyliau ffilm a rhaglennu hefyd.
Bydd cyfranogwyr yn cyflawni dyfarniad Paratoi i Weithio mewn Ffilm Lefel 2 wrth gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, a fydd yn gweithredu fel man cychwyn i'r rhai sydd ag awydd am VFX neu Animeiddio symud ymlaen at fynychu gweithdai a chyrsiau preswyl pellach yn ystod gwyliau hanner tymor a'r haf.
Bydd ceisiadau ar gyfer y ddau gwrs yn dechrau ar 19 Awst ac yn cau ar 23 Medi. Bydd Ffurflenni Cais ar gael ar dudalen we Doniau Ffresh ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ifanc sy'n byw unrhyw le yng Nghymru. Eleni byddwn yn cyflwyno cynllun bwrsariaeth am y tro cyntaf y gellir ei ddefnyddio ar gyfer teithio a llety, bydd y fwrsariaeth hon yn cefnogi pobl ifanc gymwys o Gymru y mae eu cais amdani'n llwyddiannus, ariennir hyn gan yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig a BFI. Caiff manylion eu cyhoeddi ar 19 Awst hefyd.
Abertawe VFX
Caerdydd Animeiddio
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, gyrrwch e-bost atom yn BFItalent@ffresh.com
I gael gwybodaeth bellach am Academïau Ffilm BFI, ewch i www.bfi.org.uk/filmacademy
Gweld beth sy'n digwydd yn y cefndir gydag Academi Ffilm BFI:
Gwyliwch y ffilm a wnaed gan ein carfan Abertawe ym mis Ionawr 2016: